Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 6:26-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

26. Yr offeiriad a fydd yn ei gyflwyno'n aberth dros bechod fydd yn ei fwyta, a hynny mewn lle sanctaidd yng nghyntedd pabell y cyfarfod.

27. Bydd unrhyw beth sy'n cyffwrdd â'r cig yn sanctaidd, ac os collir peth o'i waed ar wisg, rhaid ei golchi mewn lle sanctaidd.

28. Rhaid torri'r llestr pridd y coginir y cig ynddo; ond os mewn llestr pres y coginir ef, rhaid ei sgwrio a'i olchi â dŵr.

29. Caiff pob gwryw o blith yr offeiriaid ei fwyta; y mae'n gwbl sanctaidd.

30. Ond ni ddylid bwyta unrhyw aberth dros bechod y dygir ei waed i babell y cyfarfod i wneud cymod yn y cysegr; rhaid ei losgi yn y tân.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 6