Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 6:15-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. Bydd offeiriad yn cymryd ohono ddyrnaid o beilliaid, ynghyd â'r olew a'r holl thus a fydd dros y bwydoffrwm, ac yn ei losgi'n gyfran goffa ar yr allor, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.

16. Bydd Aaron a'i feibion yn bwyta'r gweddill ohono, ond rhaid ei fwyta heb furum mewn lle sanctaidd; y maent i'w fwyta yng nghyntedd pabell y cyfarfod.

17. Ni ddylid ei bobi â lefain; fe'i rhoddais iddynt yn gyfran o'u hoffrymau i mi trwy dân. Fel yr aberth dros bechod a'r offrwm dros gamwedd y mae'n gwbl sanctaidd.

18. Caiff pob un o feibion Aaron ei fwyta, fel y deddfwyd am byth dros eich cenedlaethau ynglŷn â'r offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD; fe sancteiddir pwy bynnag a'u cyffwrdd.’ ”

19. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

20. “Dyma'r offrwm y mae Aaron a'i feibion i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD ar y dydd yr eneinir ef: degfed ran o effa o beilliaid yn fwydoffrwm rheolaidd, hanner ohono yn y bore a hanner gyda'r nos.

21. Bydd wedi ei baratoi ag olew ar radell; dewch ag ef wedi ei gymysgu a'i gyflwyno'n fwydoffrwm wedi ei dorri'n ddarnau, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.

22. Y mae i'w baratoi gan y mab sydd i ddilyn Aaron fel offeiriad eneiniog; llosgir ef yn llwyr i'r ARGLWYDD fel y deddfwyd am byth.

23. Y mae pob bwydoffrwm gan offeiriad i'w losgi'n llwyr; ni ddylid ei fwyta.”

24. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Dywed wrth Aaron a'i feibion,

25. ‘Dyma ddeddf yr aberth dros bechod: Y mae'r aberth dros bechod i'w ladd o flaen yr ARGLWYDD yn y lle y lleddir y poethoffrwm; bydd yn gwbl sanctaidd.

26. Yr offeiriad a fydd yn ei gyflwyno'n aberth dros bechod fydd yn ei fwyta, a hynny mewn lle sanctaidd yng nghyntedd pabell y cyfarfod.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 6