Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 4:9-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. y ddwy aren a'r braster sydd arnynt yn y llwynau, a gorchudd yr iau a gymerir gyda'r arennau,

10. yn union fel y tynnir ef ymaith oddi ar fustach yr heddoffrwm; a bydd yr offeiriad yn eu llosgi ar allor y poethoffrwm.

11. Ond am groen y bustach a'i holl gnawd, ei ben, ei goesau, ei ymysgaroedd a'i weddillion,

12. sef y cyfan o'r bustach, bydd yn mynd â hwy y tu allan i'r gwersyll i le dihalog, lle gellir tywallt y lludw, ac yn eu llosgi ar dân coed, lle tywelltir y lludw.

13. “ ‘Os holl gymuned Israel fydd yn pechu'n anfwriadol, a hynny'n guddiedig o olwg y gynulleidfa, a hwythau'n gwneud un o'r pethau na ddylid eu gwneud yn ôl gorchmynion yr ARGLWYDD, yna byddant yn euog.

14. Pan fyddant yn sylweddoli'r pechod a wnaethant, dylai'r gynulleidfa ddod â bustach ifanc yn aberth dros bechod a'i gyflwyno o flaen pabell y cyfarfod.

15. Y mae henuriaid y gymuned i osod eu dwylo ar ben y bustach a'i ladd o flaen yr ARGLWYDD;

16. yna bydd yr offeiriad eneiniog yn mynd â pheth o waed y bustach i babell y cyfarfod,

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 4