Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27

Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Yr Heddoffrwm

1. “ ‘Os heddoffrwm fydd ei rodd, ac yntau'n dod ag anifail o'r gyr, boed wryw neu fenyw, dylai gyflwyno i'r ARGLWYDD anifail di-nam.

2. Y mae i osod ei law ar ben yr offrwm a'i ladd wrth ddrws pabell y cyfarfod; yna bydd meibion Aaron, yr offeiriaid, yn lluchio'r gwaed ar bob ochr i'r allor.

3. O'r heddoffrwm y mae i ddod ag offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD: y braster sy'n gorchuddio'r ymysgaroedd a'r holl fraster sydd ar yr ymysgaroedd,

4. y ddwy aren a'r braster sydd arnynt yn y llwynau, a gorchudd yr iau a gymerir gyda'r arennau.

5. Bydd meibion Aaron yn ei losgi ar yr allor, ar ben y poethoffrwm sydd ar y coed sy'n llosgi, a bydd yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.

6. “ ‘Os rhodd o'r praidd fydd yr heddoffrwm i'r ARGLWYDD, dylai gyflwyno gwryw neu fenyw ddi-nam.

7. Os bydd yn offrymu oen yn rhodd, y mae i'w gyflwyno o flaen yr ARGLWYDD.

8. Y mae i osod ei law ar ben yr offrwm a'i ladd o flaen pabell y cyfarfod; yna bydd meibion Aaron yn lluchio'i waed ar bob ochr i'r allor.

9. O'r heddoffrwm y mae i ddod ag offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD: ei fraster, y gynffon fras yn gyfan ac wedi ei thynnu i ffwrdd yn agos at yr asgwrn cefn, y braster sy'n gorchuddio'r ymysgaroedd a'r holl fraster sydd ar yr ymysgaroedd,

10. y ddwy aren a'r braster sydd arnynt yn y llwynau, a gorchudd yr iau a gymerir gyda'r arennau.

11. Hyn fydd yr offeiriad yn ei losgi ar yr allor yn fwyd, yn offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD.

12. “ ‘Os gafr fydd y rhodd, dylai ei chyflwyno o flaen yr ARGLWYDD.

13. Y mae i osod ei law ar ei phen a'i lladd o flaen pabell y cyfarfod; yna bydd meibion Aaron yn lluchio'i gwaed ar bob ochr i'r allor.

14. Ohoni y mae i ddod ag offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD: y braster sy'n gorchuddio'r ymysgaroedd a'r holl fraster sydd ar yr ymysgaroedd,

15. y ddwy aren a'r braster sydd arnynt yn y llwynau, a gorchudd yr iau a gymerir gyda'r arennau.

16. Bydd yr offeiriad yn eu llosgi ar yr allor yn fwyd, yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd; bydd yr holl fraster yn eiddo i'r ARGLWYDD.

17. “ ‘Bydd hon yn ddeddf barhaol dros yr holl genedlaethau lle bynnag y byddwch yn byw: nid ydych i fwyta braster na gwaed.’ ”