Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 26:22-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

22. Byddaf yn anfon bwystfilod gwyllt i'ch plith, a byddant yn eich amddifadu o'ch plant, yn difa eich anifeiliaid, ac yn eich gwneud mor fychan o rif fel y bydd eich ffyrdd yn anial.

23. “ ‘Os na fyddwch ar ôl hyn i gyd yn derbyn disgyblaeth, ond yn parhau i'm gwrthwynebu,

24. byddaf finnau yn eich gwrthwynebu chwithau, a byddaf fi fy hun yn eich taro seithwaith am eich pechodau.

25. Byddaf yn dod â'r cleddyf yn eich erbyn i ddial am dorri'r cyfamod, a byddwch yn ymgasglu i'ch dinasoedd; yna fe anfonaf bla i'ch mysg, a'ch rhoi yn llaw'r gelyn.

26. Pan dorraf eich cynhaliaeth o fara, bydd deg gwraig yn medru pobi eich bara mewn un ffwrn, a byddant yn rhannu'r bara wrth bwysau; cewch fwyta, ond ni'ch digonir.

27. “ ‘Os byddwch er gwaethaf hyn heb wrando arnaf, ond yn parhau i'm gwrthwynebu,

28. yna fe'ch gwrthwynebaf chwi yn fy nig, a byddaf fi fy hunan yn eich cosbi seithwaith am eich pechodau.

29. Byddwch yn bwyta cnawd eich meibion a'ch merched.

30. Byddaf yn dinistrio eich uchelfeydd, yn torri i lawr eich allorau arogldarthu, ac yn pentyrru eich cyrff ar weddillion eich eilunod, a byddaf yn eich ffieiddio.

31. Gwnaf eich dinasoedd yn adfeilion, dinistriaf eich cysegrleoedd, ac nid aroglaf eich arogl peraidd.

32. Byddaf yn gwneud y tir yn ddiffaith, a bydd eich gelynion sy'n byw yno wedi eu syfrdanu.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 26