Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 25:39-55 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

39. “ ‘Os bydd un ohonoch yn dlawd ac yn ei werthu ei hun iti, paid â'i orfodi i weithio iti fel caethwas.

40. Y mae i fod fel gwas cyflog neu ymsefydlydd gyda thi, ac i weithio gyda thi hyd flwyddyn y jwbili.

41. Yna y mae ef a'i deulu i'w rhyddhau, a bydd yn dychwelyd at ei lwyth ei hun ac i dreftadaeth ei hynafiaid.

42. Gan mai gweision i mi yw pobl Israel, a ddygais allan o wlad yr Aifft, ni ellir eu gwerthu yn gaethweision.

43. Paid â thra-awdurdodi drostynt, ond ofna dy Dduw.

44. Bydd dy gaethweision, yn wryw a benyw, o blith y cenhedloedd o'th amgylch; o'u plith hwy gelli brynu caethweision.

45. Cei hefyd brynu rhai o blith yr estroniaid sydd wedi ymsefydlu yn eich plith, a'r rhai o'u tylwyth sydd wedi eu geni yn eich gwlad, a byddant yn eiddo ichwi.

46. Gallwch hefyd eu gadael i'ch plant ar eich ôl, iddynt eu cymryd yn etifeddiaeth ac i fod yn gaethweision parhaol iddynt; ond nid ydych i dra-awdurdodi dros eich cyd-Israeliaid.

47. “ ‘Os bydd estron neu ymsefydlydd gyda thi yn dod yn gyfoethog, ac un o'ch plith yn mynd yn dlawd ac yn ei werthu ei hun i'r estron sydd wedi ymsefydlu gyda thi, neu i un o dylwyth yr estron,

48. bydd ganddo'r hawl i gael ei ryddhau ar ôl ei werthu; gall un o'i deulu ei ryddhau.

49. Gall ewythr neu nai neu unrhyw berthynas arall yn y llwyth ei ryddhau; neu os caiff lwyddiant, gall ei ryddhau ei hun.

50. Y mae ef a'i brynwr i gyfrif o'r flwyddyn y gwerthodd ei hun at flwyddyn y jwbili; bydd arian ei bryniant yn unol â'r hyn a delir i was cyflog dros y nifer hwn o flynyddoedd.

51. Os oes llawer o flynyddoedd ar ôl, rhaid iddo dalu am ei ryddhau gyfran uchel o'r arian a roddwyd amdano;

52. ond os ychydig sydd ar ôl hyd flwyddyn y jwbili, y mae i wneud y cyfrif ac i dalu yn ôl hynny am ei ryddhau.

53. Y mae i'w ystyried fel un wedi ei gyflogi'n flynyddol; nid ydych i adael i'w berchennog dra-awdurdodi drosto.

54. Hyd yn oed os na fydd wedi ei ryddhau trwy un o'r ffyrdd hyn, caiff ef a'i blant eu rhyddhau ym mlwyddyn y jwbili;

55. oherwydd gweision i mi yw pobl Israel, gweision a ddygais allan o wlad yr Aifft. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 25