20. Os gofynnwch, “Beth a fwytawn yn y seithfed flwyddyn, gan na fyddwn yn hau nac yn medi ein cynhaeaf?”
21. fe drefnaf y fath fendith ar eich cyfer yn y chweched flwyddyn fel y rhoddir digon o gynnyrch ichwi am dair blynedd.
22. Pan fyddwch yn hau yn yr wythfed flwyddyn, byddwch yn bwyta o'r hen gnwd, ac yn parhau i fwyta ohono nes y daw cnwd yn y nawfed flwyddyn.
23. “ ‘Ni ellir gwerthu tir yn barhaol, oherwydd eiddof fi yw'r tir, ac nid ydych chwi ond estroniaid a thenantiaid i mi.
24. Trwy holl wlad eich treftadaeth, byddwch barod i ryddhau tir a werthwyd.
25. Os bydd un ohonoch yn dlawd ac yn gwerthu rhan o'i dreftadaeth, caiff ei berthynas agosaf ddod a rhyddhau'r hyn a werthodd.
26. Os bydd heb berthynas i'w ryddhau, ac yntau wedyn yn llwyddo ac yn ennill digon i'w ryddhau,
27. y mae i gyfrif y blynyddoedd er pan werthodd ef, ac ad-dalu am hynny i'r gwerthwr, ac yna caiff ddychwelyd i'w dreftadaeth.
28. Os na fydd wedi ennill digon i ad-dalu iddo, bydd yr hyn a werthodd yn eiddo i'r prynwr hyd flwyddyn y jwbili; fe'i dychwelir ym mlwyddyn y jwbili a chaiff y gwerthwr ddychwelyd i'w dreftadaeth.
29. “ ‘Os bydd rhywun yn gwerthu tŷ annedd mewn dinas gaerog, caiff ei ryddhau o fewn blwyddyn lawn ar ôl ei werthu; o fewn yr amser hwnnw caiff ei ryddhau.
30. Os na fydd wedi ei ryddhau cyn diwedd y flwyddyn lawn, bydd y tŷ yn y ddinas gaerog yn eiddo parhaol i'r sawl a'i prynodd ac i'w ddisgynyddion; nid yw i'w ddychwelyd ym mlwyddyn y jwbili.
31. Ond y mae tai mewn trefi heb furiau o'u hamgylch i'w hystyried fel rhai yng nghefn gwlad; fe ellir eu rhyddhau, ac y maent i'w dychwelyd ym mlwyddyn y jwbili.
32. Bydd gan y Lefiaid hawl parhaol i ryddhau tai eu treftadaeth yn y dinasoedd sy'n perthyn iddynt.