1. Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ar Fynydd Sinai,
2. “Dywed wrth bobl Israel, ‘Pan ewch i mewn i'r wlad yr wyf yn ei rhoi ichwi, y mae'r wlad i gadw Saboth i'r ARGLWYDD.
3. Am chwe blynedd byddwch yn hau eich meysydd, ac am chwe blynedd yn tocio eich gwinllannoedd ac yn casglu eu ffrwyth;
4. ond ar y seithfed flwyddyn bydd y wlad yn cael Saboth o orffwys, sef Saboth i'r ARGLWYDD, ac nid ydych i hau eich meysydd nac i docio eich gwinllannoedd.
5. Nid ydych ychwaith i fedi'r cynhaeaf a dyfodd ohono'i hun, nac i gasglu grawnwin oddi ar winwydd heb eu tocio; y mae'r wlad i gael blwyddyn o orffwys.
6. Ond bydd unrhyw beth a gynhyrcha'r ddaear yn ystod y flwyddyn o Saboth yn fwyd i ti dy hun, ac i'th was a'th forwyn, dy was cyflog a'r estron sy'n byw gyda thi,
7. a hefyd i'th anifail ac i'r bwystfil gwyllt fydd ar dy dir; bydd yr holl gynnyrch yn ymborth.
8. “ ‘Cyfrif saith Saboth o flynyddoedd, sef saith mlynedd seithwaith; bydd saith Saboth o flynyddoedd yn naw a deugain o flynyddoedd.
9. Yna ar y degfed dydd o'r seithfed mis pâr ganu'r utgorn ym mhob man; ar Ddydd y Cymod pâr ganu'r utgorn trwy dy holl wlad.
10. Cysegra'r hanner canfed flwyddyn, a chyhoedda ryddid trwy'r wlad i'r holl drigolion; bydd hon yn flwyddyn jwbili ichwi, a bydd pob un ohonoch yn dychwelyd i'w dreftadaeth ac at ei dylwyth.
11. Bydd yr hanner canfed flwyddyn yn flwyddyn jwbili ichwi; peidiwch â hau, na medi'r hyn a dyfodd ohono'i hun, na chasglu oddi ar winwydd heb eu tocio.