10. Yr oedd mab i wraig o Israel, a'i dad yn Eifftiwr, yn ymdeithio ymhlith pobl Israel, a chododd cynnen yn y gwersyll rhyngddo ef ac un o waed Israelig pur.
11. Cablodd mab y wraig o Israel enw Duw trwy felltithio, a daethant ag ef at Moses. Enw ei fam oedd Selomith ferch Dibri o lwyth Dan.
12. Rhoddwyd ef yng ngharchar nes iddynt gael gwybod ewyllys yr ARGLWYDD.
13. A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
14. “Dos â'r sawl a gablodd y tu allan i'r gwersyll; y mae pob un a'i clywodd i roi ei law ar ei ben, ac y mae'r holl gynulliad i'w labyddio.
15. Dywed wrth bobl Israel, ‘Y mae pob un sy'n melltithio ei Dduw yn gyfrifol am ei bechod;
16. y mae pob un sy'n cablu enw'r ARGLWYDD i'w roi i farwolaeth, a'r holl gynulliad i'w labyddio. Pwy bynnag sy'n cablu enw Duw, boed estron neu frodor, rhaid iddo farw.
17. “ ‘Os bydd rhywun yn cymryd bywyd rhywun arall rhaid ei roi i farwolaeth.
18. Os bydd rhywun yn lladd anifail rhywun arall, rhaid iddo wneud iawn, einioes am einioes.
19. Os bydd rhywun yn niweidio'i gymydog, rhaid gwneud yr un peth iddo yntau,