Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 24:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

2. “Gorchymyn i bobl Israel ddod ag olew pur o olifiau wedi eu gwasgu, a'i roi iti ar gyfer y goleuni, er mwyn cadw'r lamp ynghynn bob amser.

3. Y tu allan i len y dystiolaeth ym mhabell y cyfarfod y mae Aaron i ofalu bob amser am lamp o flaen yr ARGLWYDD o'r cyfnos hyd y bore; y mae hon yn ddeddf dragwyddol dros y cenedlaethau.

4. Y mae'n rhaid gofalu bob amser am y lampau yn y canhwyllbren aur o flaen yr ARGLWYDD.

5. “Cymer beilliaid a phobi deuddeg torth, a phob torth yn bumed ran o effa.

6. Gosod hwy'n ddwy res, chwech ymhob rhes, ar y bwrdd aur o flaen yr ARGLWYDD.

7. Rho thus pur ar y ddwy res, iddo fod ar y bara yn goffa ac yn aberth trwy dân i'r ARGLWYDD.

8. Rhaid gosod y bara hwn o flaen yr ARGLWYDD bob amser, Saboth ar ôl Saboth, yn gyfamod tragwyddol ar ran pobl Israel.

9. Bydd yn eiddo i Aaron a'i feibion, a byddant yn ei fwyta mewn lle sanctaidd, oherwydd dyma'r rhan sancteiddiaf o'r offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD trwy ddeddf dragwyddol.”

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 24