Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 21:11-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Nid yw i fynd i mewn at gorff marw, na'i halogi ei hun hyd yn oed er mwyn ei dad na'i fam.

12. Nid yw i fynd allan o'r cysegr, rhag iddo halogi cysegr ei Dduw, oherwydd fe'i cysegrwyd ag olew eneinio ei Dduw. Myfi yw'r ARGLWYDD.

13. Y mae i briodi gwyryf yn wraig.

14. Nid yw i gymryd gweddw, un wedi ei hysgaru, nac un wedi ei halogi trwy buteindra, ond y mae i gymryd yn wraig wyryf o blith ei dylwyth,

15. rhag iddo halogi ei had ymysg ei bobl. Myfi yw'r ARGLWYDD sy'n ei sancteiddio.’ ”

16. Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

17. “Dywed wrth Aaron, ‘Dros y cenedlaethau i ddod nid oes yr un o'th ddisgynyddion sydd â nam arno i ddod a chyflwyno bwyd ei Dduw.

18. Nid oes neb ag unrhyw nam arno i ddynesu, boed yn ddall, yn gloff, wedi ei anffurfio neu ei hagru,

19. yn ddyn gydag anaf ar ei droed neu ei law,

20. yn wargam neu'n gorrach, gyda nam ar ei lygad, crach, doluriau neu geilliau briwedig.

21. Nid yw'r un o ddisgynyddion Aaron yr offeiriad sydd â nam arno i ddynesu i gyflwyno offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD; am fod nam arno, nid yw i ddynesu i gyflwyno bwyd ei Dduw.

22. Caiff fwyta bwyd ei Dduw o'r offrymau sanctaidd a'r offrymau sancteiddiaf,

23. ond oherwydd bod nam arno ni chaiff fynd at y llen na dynesu at yr allor, rhag iddo halogi fy nghysegr. Myfi yw'r ARGLWYDD sy'n eu sancteiddio.’ ”

24. Fel hyn y dywedodd Moses wrth Aaron a'i feibion ac wrth holl bobl Israel.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 21