Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 21:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Llefara wrth yr offeiriaid, meibion Aaron, a dywed wrthynt, ‘Nid yw offeiriad i'w halogi ei hun am farw yr un o'i dylwyth,

2. ac eithrio ei deulu agosaf, megis ei fam, ei dad, ei fab, ei ferch, ei frawd,

3. neu ei chwaer ddibriod, sy'n agos ato am nad oes ganddi ŵr.

4. Fel pennaeth ymysg ei dylwyth nid yw i'w halogi ei hun na'i wneud ei hun yn aflan.

5. “ ‘Nid yw offeiriaid i eillio'r pen yn foel nac i dorri ymylon y farf nac i wneud toriadau ar y cnawd.

6. Byddant yn sanctaidd i'w Duw, ac nid ydynt i halogi ei enw; am eu bod yn cyflwyno offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD, sef bwyd eu Duw, fe fyddant yn sanctaidd.

7. Nid ydynt i briodi putain, nac un wedi colli ei gwyryfdod, na gwraig wedi ei hysgaru oddi wrth ei gŵr; oherwydd y maent yn sanctaidd i'r ARGLWYDD.

8. Yr wyt i'w hystyried yn sanctaidd, oherwydd eu bod yn cyflwyno bwyd dy Dduw; byddant yn sanctaidd i ti, oherwydd sanctaidd ydwyf fi, yr ARGLWYDD, sy'n eich sancteiddio.

9. Os bydd merch i offeiriad yn ei halogi ei hun trwy fynd yn butain, y mae'n halogi ei thad; rhaid ei llosgi yn y tân.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 21