Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 20:13-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Os bydd dyn yn gorwedd gyda dyn fel gyda gwraig, y mae'r ddau wedi gwneud ffieidd-dra; y maent i'w rhoi i farwolaeth, ac y maent yn gyfrifol am eu gwaed eu hunain.

14. Os bydd dyn yn priodi gwraig a'i mam, y mae'n gwneud anlladrwydd. Y mae ef a hwythau i'w llosgi yn y tân, rhag i anlladrwydd fod yn eich mysg.

15. Os bydd dyn yn gorwedd gydag anifail, y mae i'w roi i farwolaeth, a rhaid lladd yr anifail.

16. Os bydd gwraig yn dynesu at unrhyw anifail i'w rhoi ei hun iddo, y mae'r wraig a'r anifail i'w lladd; y maent i'w rhoi i farwolaeth ac y maent yn gyfrifol am eu gwaed eu hunain.

17. Os bydd dyn yn priodi ei chwaer, merch ei dad neu ei fam, ac yn cael cyfathrach rywiol â hi, y mae'n warth. Y maent i'w torri ymaith yng ngŵydd plant eu pobl; y mae ef wedi amharchu ei chwaer ac y mae'n gyfrifol am ei drosedd.

18. Os bydd dyn yn gorwedd gyda gwraig yn ei misglwyf, ac yn cael cyfathrach rywiol gyda hi, y mae wedi dinoethi tarddle ei diferlif gwaed ac y mae hithau wedi ei dinoethi. Y mae'r ddau ohonynt i'w torri ymaith o blith eu pobl.

19. Nid wyt i gael cyfathrach rywiol gyda chwaer dy fam na chwaer dy dad, gan y byddai hynny'n amharchu perthynas agos; y mae'r ddau'n gyfrifol am eu trosedd.

20. Os bydd dyn yn gorwedd gyda'i fodryb, y mae'n amharchu ei ewythr; y mae'r ddau'n gyfrifol am eu pechod, a byddant farw'n ddi-blant.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 20