Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 19:11-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. “ ‘Nid ydych i ladrata, na dweud celwydd, na thwyllo eich gilydd.

12. Nid ydych i dyngu'n dwyllodrus yn fy enw, a halogi enw eich Duw. Myfi yw'r ARGLWYDD.

13. “ ‘Nid wyt i wneud cam â'th gymydog na dwyn oddi arno. Nid wyt i ddal yn ôl hyd y bore gyflog dy weithiwr.

14. Nid wyt i felltithio'r byddar na rhoi rhwystr ar ffordd y dall; ond ofna dy Dduw. Myfi yw'r ARGLWYDD.

15. “ ‘Nid wyt i wyro barn, na bod yn bleidiol tuag at y tlawd na dangos ffafriaeth at y mawr, ond yr wyt i farnu dy gymydog yn deg.

16. Nid wyt i fynd o amgylch yn enllibio ymysg dy bobl na pheryglu bywyd dy gymydog. Myfi yw'r ARGLWYDD.

17. “ ‘Nid wyt i gasáu dy frawd a'th chwaer yn dy galon, ond yr wyt i geryddu dy gymydog rhag iti fod yn gyfrifol am ei drosedd.

18. Nid wyt i geisio dial ar un o'th bobl, na dal dig tuag ato, ond yr wyt i garu dy gymydog fel ti dy hun. Myfi yw'r ARGLWYDD.

19. “ ‘Yr ydych i gadw fy neddfau. Nid wyt i groesi anifeiliaid gwahanol, hau dy faes â hadau gwahanol, na gwisgo dillad o ddeunydd cymysg.

20. “ ‘Os bydd dyn yn gorwedd mewn cyfathrach â gwraig, a hithau'n gaethferch wedi ei dyweddïo i ŵr ond heb ei phrynu'n ôl na'i rhyddhau, bydd yn rhaid eu cosbi. Ond nid ydynt i'w rhoi i farwolaeth am nad oedd hi'n rhydd;

21. y mae ef i ddod ag offrwm dros ei gamwedd i'r ARGLWYDD at ddrws pabell y cyfarfod, sef hwrdd yr aberth dros gamwedd.

22. Oherwydd y pechod a wnaeth, bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto o flaen yr ARGLWYDD â hwrdd yr offrwm dros gamwedd; ac fe faddeuir iddo am y pechod a wnaeth.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 19