Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 18:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

2. “Dywed wrth bobl Israel, ‘Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.

3. Nid ydych i wneud fel y gwneir yng ngwlad yr Aifft, lle buoch yn byw, nac fel y gwneir yng ngwlad Canaan, lle'r wyf yn mynd â chwi. Peidiwch â dilyn eu harferion.

4. Yr ydych i ufuddhau i'm cyfreithiau ac i gadw fy neddfau; myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.

5. Cadwch fy neddfau a'm cyfreithiau, oherwydd y mae'r sawl sy'n eu cadw yn byw trwyddynt. Myfi yw'r ARGLWYDD.

6. “ ‘Nid yw unrhyw un i ddynesu at berthynas agos iddo i gael cyfathrach rywiol. Myfi yw'r ARGLWYDD.

7. “ ‘Nid wyt i amharchu dy dad trwy gael cyfathrach rywiol â'th fam; dy fam yw hi, ac nid wyt i gael cyfathrach â hi.

8. “ ‘Nid wyt i gael cyfathrach rywiol â gwraig dy dad; byddai hynny'n amharchu dy dad.

9. “ ‘Nid wyt i gael cyfathrach rywiol â'th chwaer, boed yn ferch i'th dad neu'n ferch i'th fam, ac wedi ei geni yn y cartref neu'r tu allan iddo.

10. “ ‘Nid wyt i gael cyfathrach rywiol â merch dy fab neu ferch dy ferch; byddai hynny'n dy amharchu.

11. “ ‘Nid wyt i gael cyfathrach rywiol â merch i wraig dy dad sydd wedi ei geni i'th dad; y mae'n chwaer iti, ac nid wyt i gael cyfathrach â hi.

12. “ ‘Nid wyt i gael cyfathrach rywiol â chwaer dy dad; y mae'n berthynas agos i'th dad.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 18