Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27

Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Gwahardd Cymryd Gwaed

1. Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

2. “Dywed wrth Aaron a'i feibion a holl bobl Israel, ‘Dyma a orchmynnodd yr ARGLWYDD.

3. Os bydd unrhyw un o dŷ Israel a fydd yn lladd bustach, oen neu afr yn y gwersyll, neu'r tu allan iddo,

4. a heb ddod ag ef at ddrws pabell y cyfarfod i'w gyflwyno'n rhodd i'r ARGLWYDD o flaen y tabernacl, y mae hwnnw yn cael ei ystyried yn euog o waed; y mae hwnnw wedi tywallt gwaed, ac y mae i'w dorri ymaith o blith ei bobl.

5. Y mae hyn er mwyn i bobl Israel ddod â'r aberthau a offrymant yn awr yn y meysydd agored, a'u cyflwyno i'r ARGLWYDD trwy'r offeiriad wrth ddrws pabell y cyfarfod; y maent i'w haberthu yn heddoffrymau i'r ARGLWYDD.

6. Bydd yr offeiriad yn lluchio'r gwaed ar allor yr ARGLWYDD wrth ddrws pabell y cyfarfod, ac yn llosgi'r braster yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.

7. Nid ydynt i offrymu eu haberthau i'r gafr-ddelwau y buont yn puteinio ar eu holau. Y mae hyn yn ddeddf dragwyddol iddynt dros y cenedlaethau.’

8. “Dywed wrthynt, ‘Bydd unrhyw un o dŷ Israel, neu o'r estroniaid sy'n byw yn eu mysg, a fydd yn offrymu poethoffrwm neu aberth,

9. a heb ddod ag ef at ddrws pabell y cyfarfod i'w aberthu i'r ARGLWYDD, y mae hwnnw yn cael ei dorri ymaith o blith ei bobl.

10. “ ‘Os bydd unrhyw un o dŷ Israel, neu o'r estroniaid sy'n byw yn eu mysg, yn bwyta unrhyw waed, byddaf yn gosod fy wyneb yn erbyn y sawl sy'n bwyta gwaed, ac yn ei dorri ymaith o blith ei bobl.

11. Oherwydd y mae bywyd y corff yn y gwaed, ac fe'i rhoddais ichwi i wneud cymod drosoch eich hunain ar yr allor; y gwaed sy'n gwneud cymod dros fywyd.

12. Dyma pam y dywedais wrth bobl Israel, “Nid yw'r un ohonoch chwi, nac unrhyw estron sy'n byw yn eich mysg, i fwyta gwaed.”

13. “ ‘Y mae unrhyw un o bobl Israel, neu o'r estroniaid sy'n byw yn eu mysg, sy'n hela anifail neu aderyn y gellir ei fwyta, i dywallt ei waed a'i orchuddio â phridd,

14. oherwydd y mae bywyd pob corff yn y gwaed. Dyna pam y dywedais wrth bobl Israel, “Nid ydych i fwyta gwaed unrhyw greadur”, oherwydd y mae bywyd pob corff yn ei waed; y mae unrhyw un sy'n ei fwyta i'w dorri ymaith.

15. “ ‘Y mae unrhyw un, boed frodor neu estron, sy'n bwyta rhywbeth wedi marw neu ei larpio gan anifail, i olchi ei ddillad, i ymolchi â dŵr, a bod yn aflan hyd yr hwyr; yna bydd yn lân.

16. Os na fydd yn golchi ei ddillad nac yn ymolchi, bydd yn gyfrifol am ei drosedd.’ ”