Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 14:6-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Wedyn bydd yn cymryd yr aderyn byw ac yn ei drochi ef, ynghyd â'r pren cedrwydd, yr edau ysgarlad a'r isop, yng ngwaed yr aderyn a laddwyd uwchben y dŵr croyw,

7. ac yn ei daenellu seithwaith dros yr un a lanheir o'r haint. Yna bydd yn ei gyhoeddi'n lân ac yn gollwng yr aderyn byw yn rhydd.

8. “Y mae'r sawl a lanheir i olchi ei ddillad, eillio'i wallt i gyd ac ymolchi â dŵr, ac yna bydd yn lân; ar ôl hyn caiff ddod i mewn i'r gwersyll, ond y mae i aros y tu allan i'w babell am saith diwrnod.

9. Ar y seithfed dydd y mae i eillio'i wallt i gyd oddi ar ei ben, ei farf, ei aeliau a gweddill ei gorff; y mae i olchi ei ddillad ac ymolchi â dŵr. Yna bydd yn lân.

10. “Ar yr wythfed dydd y mae i ddod â dau oen di-nam ac un hesbin flwydd ddi-nam, ynghyd â thair degfed ran o effa o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew yn fwydoffrwm, ac un log o olew.

11. Bydd yr offeiriad sy'n gyfrifol am lanhau yn dod â hwy, ynghyd â'r sawl a lanheir, o flaen yr ARGLWYDD at ddrws pabell y cyfarfod.

12. Bydd yr offeiriad yn cymryd un o'r ŵyn ac yn ei gyflwyno, ynghyd â'r log o olew, yn offrwm dros gamwedd ac yn ei chwifio'n offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD.

13. Bydd yn lladd yr oen yn y man sanctaidd lle lleddir yr aberth dros bechod a'r poethoffrwm. Fel yr aberth dros bechod, y mae'r offrwm dros gamwedd yn eiddo i'r offeiriad; y mae'n gwbl sanctaidd.

14. Bydd yr offeiriad yn cymryd o waed yr offrwm dros gamwedd a'i roi ar gwr isaf clust dde yr un a lanheir, ar fawd ei law dde ac ar fawd ei droed de.

15. Yna bydd yr offeiriad yn cymryd peth o'r log o olew, yn ei dywallt ar gledr ei law chwith,

16. yn trochi ei fys de yn yr olew ar gledr ei law, ac â'i fys yn taenellu peth o'r olew seithwaith o flaen yr ARGLWYDD.

17. Bydd yr offeiriad yn rhoi peth o'r olew sy'n weddill yng nghledr ei law ar gwr isaf clust dde yr un a lanheir, ar fawd ei law dde ac ar fawd ei droed de, a hynny dros waed yr offrwm dros gamwedd.

18. Bydd yr offeiriad yn rhoi gweddill yr olew sydd yng nghledr ei law ar ben yr un a lanheir, ac yn gwneud cymod drosto o flaen yr ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 14