Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 14:21-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

21. “Ond os yw'n dlawd a heb fedru fforddio cymaint, y mae i gymryd un oen yn offrwm dros gamwedd, yn offrwm cyhwfan i wneud cymod drosto, ynghyd â degfed ran o effa o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew yn fwydoffrwm, log o olew,

22. a hefyd ddwy durtur neu ddau gyw colomen, fel y gall ei fforddio, y naill yn aberth dros bechod a'r llall yn boethoffrwm.

23. Ar yr wythfed dydd, er mwyn ei lanhau, y mae i ddod â hwy o flaen yr ARGLWYDD at yr offeiriad wrth ddrws pabell y cyfarfod.

24. Bydd yr offeiriad yn cymryd oen yr offrwm dros gamwedd, a'r log o olew, ac yn eu chwifio'n offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD.

25. Bydd yn lladd oen yr offrwm dros gamwedd ac yn cymryd peth o'i waed a'i roi ar gwr isaf clust dde yr un a lanheir, ar fawd ei law dde ac ar fawd ei droed de.

26. Bydd yr offeiriad yn tywallt peth o'r olew ar gledr ei law chwith,

27. ac â'i fys de yn taenellu peth o'r olew o gledr ei law chwith seithwaith o flaen yr ARGLWYDD.

28. Bydd yn rhoi peth o'r olew yng nghledr ei law ar gwr isaf clust dde yr un a lanheir, ar fawd ei law dde ac ar fawd ei droed de, sef yn yr un lle â gwaed yr offrwm dros gamwedd.

29. Bydd yr offeiriad yn rhoi gweddill yr olew sydd yng nghledr ei law ar ben yr un a lanheir, i wneud cymod drosto o flaen yr ARGLWYDD.

30. Yna bydd yn offrymu naill ai'r turturod neu'r cywion colomennod, fel y gall ei fforddio,

31. y naill yn aberth dros bechod a'r llall yn boethoffrwm, ynghyd â'r bwydoffrwm; bydd yr offeiriad yn gwneud cymod o flaen yr ARGLWYDD dros yr un a lanheir.”

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 14