11. Bydd yr offeiriad sy'n gyfrifol am lanhau yn dod â hwy, ynghyd â'r sawl a lanheir, o flaen yr ARGLWYDD at ddrws pabell y cyfarfod.
12. Bydd yr offeiriad yn cymryd un o'r ŵyn ac yn ei gyflwyno, ynghyd â'r log o olew, yn offrwm dros gamwedd ac yn ei chwifio'n offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD.
13. Bydd yn lladd yr oen yn y man sanctaidd lle lleddir yr aberth dros bechod a'r poethoffrwm. Fel yr aberth dros bechod, y mae'r offrwm dros gamwedd yn eiddo i'r offeiriad; y mae'n gwbl sanctaidd.
14. Bydd yr offeiriad yn cymryd o waed yr offrwm dros gamwedd a'i roi ar gwr isaf clust dde yr un a lanheir, ar fawd ei law dde ac ar fawd ei droed de.
15. Yna bydd yr offeiriad yn cymryd peth o'r log o olew, yn ei dywallt ar gledr ei law chwith,
16. yn trochi ei fys de yn yr olew ar gledr ei law, ac â'i fys yn taenellu peth o'r olew seithwaith o flaen yr ARGLWYDD.
17. Bydd yr offeiriad yn rhoi peth o'r olew sy'n weddill yng nghledr ei law ar gwr isaf clust dde yr un a lanheir, ar fawd ei law dde ac ar fawd ei droed de, a hynny dros waed yr offrwm dros gamwedd.
18. Bydd yr offeiriad yn rhoi gweddill yr olew sydd yng nghledr ei law ar ben yr un a lanheir, ac yn gwneud cymod drosto o flaen yr ARGLWYDD.
19. Yna bydd yr offeiriad yn offrymu'r aberth dros bechod ac yn gwneud cymod dros yr un a lanheir o'i aflendid. Ar ôl hynny bydd yn lladd y poethoffrwm,
20. ac yn ei gyflwyno ar yr allor gyda'r bwydoffrwm. Fel hyn y bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto, a bydd yn lân.
21. “Ond os yw'n dlawd a heb fedru fforddio cymaint, y mae i gymryd un oen yn offrwm dros gamwedd, yn offrwm cyhwfan i wneud cymod drosto, ynghyd â degfed ran o effa o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew yn fwydoffrwm, log o olew,
22. a hefyd ddwy durtur neu ddau gyw colomen, fel y gall ei fforddio, y naill yn aberth dros bechod a'r llall yn boethoffrwm.
23. Ar yr wythfed dydd, er mwyn ei lanhau, y mae i ddod â hwy o flaen yr ARGLWYDD at yr offeiriad wrth ddrws pabell y cyfarfod.