Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 14:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses a dweud,

2. “Dyma fydd y gyfraith ynglŷn â'r heintus ar ddydd ei lanhau. Dyger ef at yr offeiriad,

3. a bydd yr offeiriad yn mynd y tu allan i'r gwersyll ac yn ei archwilio. Os bydd wedi gwella o'r haint,

4. bydd yr offeiriad yn gorchymyn dod â dau aderyn glân yn fyw, pren cedrwydd, edau ysgarlad ac isop ar ran yr un a lanheir.

5. Yna bydd yr offeiriad yn gorchymyn lladd un o'r adar uwchben dŵr croyw mewn llestr pridd.

6. Wedyn bydd yn cymryd yr aderyn byw ac yn ei drochi ef, ynghyd â'r pren cedrwydd, yr edau ysgarlad a'r isop, yng ngwaed yr aderyn a laddwyd uwchben y dŵr croyw,

7. ac yn ei daenellu seithwaith dros yr un a lanheir o'r haint. Yna bydd yn ei gyhoeddi'n lân ac yn gollwng yr aderyn byw yn rhydd.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 14