Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 10:8-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Aaron,

9. “Nid wyt ti na'th feibion i yfed gwin na diod gadarn pan fyddwch yn dod i babell y cyfarfod, rhag ichwi farw. Y mae hon yn ddeddf dragwyddol dros eich cenedlaethau,

10. er mwyn ichwi wahaniaethu rhwng sanctaidd a chyffredin, a rhwng aflan a glân,

11. a dysgu i bobl Israel yr holl ddeddfau a roddodd yr ARGLWYDD iddynt trwy Moses.”

12. Dywedodd Moses wrth Aaron ac wrth Eleasar ac Ithamar, y meibion a adawyd, “Cymerwch y bwydoffrwm sy'n weddill o'r offrymau trwy dân a wnaed i'r ARGLWYDD, a'i fwyta heb furum wrth ymyl yr allor, oherwydd y mae'n gwbl sanctaidd.

13. Bwytewch ef mewn lle sanctaidd, gan mai dyna dy gyfran di a chyfran dy feibion o'r offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD, oherwydd fel hyn y gorchmynnais.

14. Yr wyt ti, dy feibion a'th ferched i fwyta brest yr offrwm cyhwfan a chlun y cyfraniad mewn lle dihalog, oherwydd fe'u rhoddwyd i ti a'th blant yn gyfran o heddoffrymau pobl Israel.

15. Deuer â chlun y cyfraniad a brest yr offrwm cyhwfan, gyda'r rhannau bras o'r offrymau trwy dân, i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD yn offrwm cyhwfan. Bydd hyn yn gyfran reolaidd i ti a'th blant, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD.”

16. Pan ymholodd Moses am fwch yr aberth dros bechod, cafodd ei fod wedi ei losgi; a bu'n ddig iawn wrth Eleasar ac Ithamar, y meibion a adawyd i Aaron. Gofynnodd,

17. “Pam na fu ichwi fwyta'r aberth dros bechod yng nghyffiniau'r cysegr, gan ei fod yn gwbl sanctaidd ac iddo gael ei roi i chwi i ddwyn camwedd y gynulleidfa trwy wneud cymod drostynt gerbron yr ARGLWYDD?

18. Wele, ni ddygwyd ei waed i mewn i'r cysegr mewnol; yn sicr dylech fod wedi bwyta'r bwch yn y cysegr, fel y gorchmynnais.”

19. Dywedodd Aaron wrth Moses, “Y maent heddiw wedi cyflwyno o flaen yr ARGLWYDD eu haberth dros bechod a'u poethoffrwm, ac y mae'r fath bethau wedi digwydd i mi! A fyddai'n dderbyniol gan yr ARGLWYDD pe bawn wedi bwyta'r aberth dros bechod heddiw?”

20. Pan glywodd Moses hyn, bu'n fodlon.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 10