Hen Destament

Testament Newydd

Lefiticus 1:15-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. Y mae'r offeiriad i ddod ag ef at yr allor a thorri ei ben, a'i losgi ar yr allor; bydd yn gwasgu allan ei waed ar ochr yr allor,

16. yn tynnu ei grombil a'i blu, ac yn eu lluchio yn ymyl yr allor i'r dwyrain, lle mae'r lludw;

17. bydd yn ei agor allan gerfydd ei adenydd, ond heb ei ddarnio; yna bydd yr offeiriad yn ei losgi ar yr allor, ar y coed sy'n llosgi, yn boethoffrwm, yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Lefiticus 1