Hen Destament

Testament Newydd

Josua 8:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, “Paid ag ofni nac arswydo; cymer y rhyfelwyr i gyd gyda thi, a dos i fyny at Ai. Edrych, yr wyf wedi rhoi yn dy law frenin Ai gyda'i bobl, ei ddinas a'i dir.

2. Gwna i Ai a'i brenin fel y gwnaethost i Jericho a'i brenin, ond cewch gadw ei hanrhaith a'i hanifeiliaid hi yn ysbail i chwi eich hunain. Gosod iti filwyr ynghudd y tu cefn i'r ddinas.”

3. Cychwynnodd Josua a'r holl fyddin i fyny yn erbyn Ai; a dewisodd Josua ddeng mil ar hugain o ryfelwyr dewr, a'u hanfon ymlaen liw nos.

4. Yna gorchmynnodd iddynt fel hyn: “Edrychwch, yr ydych i guddio o olwg y ddinas, y tu cefn iddi; ond peidiwch â mynd yn rhy bell oddi wrthi, a byddwch i gyd yn barod.

5. Byddaf fi a'r holl fyddin sydd gyda mi yn agosáu at y ddinas, a phan ddônt allan i ymosod arnom fel y tro cyntaf, yna byddwn yn ffoi o'u blaen.

6. Fe ddônt hwythau ar ein hôl nes inni eu denu hwy o'r ddinas, gan feddwl ein bod yn ffoi o'u blaen fel y gwnaethom y tro cynt.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 8