20. Atebodd Achan, “Yn wir yr wyf wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD, Duw Israel; dyma a wneuthum:
21. ymysg yr ysbail gwelais fantell hardd o Sinar, dau can sicl o arian, a llafn aur yn pwyso hanner can sicl. Cododd blys arnaf amdanynt, ac fe'u cymerais. Y maent wedi eu cuddio yn y ddaear i mewn yn fy mhabell, gyda'r arian oddi tanodd.”
22. Anfonodd Josua negeswyr; ac wedi iddynt redeg at y babell, fe'u gwelsant wedi eu cuddio, a'r arian oddi tanodd.
23. Cymerasant hwy allan o'r babell a dod â hwy at Josua a'r holl Israeliaid, a'u gosod gerbron yr ARGLWYDD.
24. Yna bu i Josua, ac Israel gyfan gydag ef, gymryd Achan fab Sera, a'r arian a'r fantell a'r llafn aur, a'i feibion a'i ferched, a'i ychen a'i asynnod a'i ddefaid a'i babell, y cwbl a feddai, ac aethant ag ef i fyny i ddyffryn Achor.
25. Dywedodd Josua, “Am i ti ein cythryblu ni, bydd yr ARGLWYDD yn dy gythryblu dithau y dydd hwn.” A llabyddiodd Israel gyfan ef â cherrig, a llosgi'r lleill â thân ar ôl eu llabyddio.
26. Codasant drosto garnedd fawr o gerrig sydd yno hyd heddiw; yna peidiodd digofaint yr ARGLWYDD. Dyna pam y gelwir y lle hwnnw'n ddyffryn Achor hyd y dydd hwn.