Hen Destament

Testament Newydd

Josua 6:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yr oedd Jericho wedi ei chloi'n dynn rhag yr Israeliaid, heb neb yn mynd i mewn nac allan.

2. Ac meddai'r ARGLWYDD wrth Josua, “Edrych, yr wyf wedi rhoi Jericho a'i brenin a'i rhyfelwyr grymus yn dy law.

3. Ewch chwi, yr holl filwyr, o amgylch y ddinas un waith, a gwneud hynny am chwe diwrnod.

4. A bydded i saith offeiriad gario saith utgorn o gorn hwrdd o flaen yr arch. Yna ar y seithfed dydd amgylchwch y ddinas seithwaith, a'r offeiriaid yn seinio'r utgyrn.

5. Pan ddaw caniad hir ar y corn hwrdd, a chwithau'n clywed sain yr utgorn, bloeddied y fyddin gyfan â bloedd uchel, ac fe syrth mur y ddinas i lawr; yna aed pob un o'r fyddin i fyny ar ei gyfer.”

6. Galwodd Josua fab Nun ar yr offeiriaid a dweud wrthynt, “Codwch arch y cyfamod, a bydded i saith offeiriad gario saith utgorn o gorn hwrdd o flaen arch yr ARGLWYDD.”

7. Dywedodd wrth y fyddin, “Ewch ymlaen ac amgylchwch y ddinas, gyda'r rhai arfog yn mynd o flaen arch yr ARGLWYDD.”

8. Ac wedi i Josua lefaru wrth y fyddin, cerddodd y saith offeiriad oedd yn cario'r saith utgorn o gorn hwrdd o flaen yr ARGLWYDD, gan seinio'r utgyrn, ac arch cyfamod yr ARGLWYDD yn eu dilyn.

9. Yr oedd y gwŷr arfog yn mynd o flaen yr offeiriaid oedd yn seinio'r utgyrn, a'r ôl-osgordd yn dilyn yr arch; yr oedd yr utgyrn yn seinio wrth iddynt fynd.

10. Yr oedd Josua wedi gorchymyn i'r fyddin, “Peidiwch â gweiddi na chodi eich llais nac yngan yr un gair tan y diwrnod y dywedaf wrthych am floeddio; yna bloeddiwch.”

11. Aethant ag arch yr ARGLWYDD o amgylch y ddinas un waith, ac yna dychwelyd i'r gwersyll i fwrw'r nos.

12. Cododd Josua'n fore, a chymerodd yr offeiriaid arch yr ARGLWYDD;

13. yna aeth y saith offeiriad, a oedd yn cario'r saith utgorn o gorn hwrdd, o flaen arch yr ARGLWYDD gan seinio'r utgyrn, gyda'r gwŷr arfog o'u blaen a'r ôl-osgordd yn dilyn yr arch; yr oedd yr utgyrn yn seinio wrth iddynt fynd.

14. Ar ôl amgylchu'r ddinas un waith ar yr ail ddiwrnod, aethant yn eu hôl i'r gwersyll. Gwnaethant felly am chwe diwrnod.

15. Ar y seithfed dydd, codasant gyda'r wawr ac amgylchu'r ddinas yr un modd saith o weithiau; y diwrnod hwnnw'n unig yr amgylchwyd y ddinas seithwaith.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 6