Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

Josua 5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Pan glywodd holl frenhinoedd yr Amoriaid ar yr ochr orllewinol i'r Iorddonen, a holl frenhinoedd y Canaaneaid yn ymyl y môr, fod yr ARGLWYDD wedi sychu dyfroedd yr Iorddonen o flaen yr Israeliaid, nes iddynt groesi, suddodd eu calon ac nid oedd hyder ganddynt i wynebu'r Israeliaid.

Enwaedu ar yr Israeliaid yn Gilgal

2. Yr adeg honno dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, “Darpara iti gyllyll callestr ac ailddechrau enwaedu ar yr Israeliaid.”

3. Paratôdd Josua gyllyll callestr ac enwaedodd ar yr Israeliaid yn Gibeath-araloth.

4. A dyma pam yr enwaedodd Josua arnynt: yr oedd yr holl fyddin a ddaeth allan o'r Aifft, sef yr holl wrywod oedd yn dwyn arfau, wedi marw yn yr anialwch ar eu taith o'r Aifft.

5. Yr oedd pawb o'r fyddin a ddaeth allan o'r Aifft wedi eu henwaedu, ond nid enwaedwyd ar neb a anwyd yn yr anialwch ar y daith o'r Aifft.

6. Deugain mlynedd y bu'r Israeliaid yn crwydro'r anialwch, nes bod yr holl genhedlaeth o wŷr arfog a ddaeth allan o'r Aifft wedi marw am nad oeddent wedi gwrando ar lais yr ARGLWYDD; yr oedd yr ARGLWYDD wedi tyngu wrthynt na chaent hwy weld y wlad yr oedd ef wedi ei haddo i'w hynafiaid, gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.

7. Cododd eu meibion yn eu lle, ac arnynt hwy yr enwaedodd Josua; yr oeddent yn ddienwaededig am nad enwaedwyd arnynt ar y daith.

8. Ar ôl eu henwaedu, arhosodd yr holl genedl lle'r oeddent yn y gwersyll nes eu hiacháu.

9. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, “Heddiw yr wyf wedi treiglo gwarth yr Aifft oddi arnoch.” Felly gelwir y lle hwnnw'n Gilgal hyd y dydd hwn.

10. Yr oedd yr Israeliaid yn gwersyllu yn Gilgal, a chyda'r hwyr ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis, buont yn dathlu'r Pasg yn rhosydd Jericho.

11. Trannoeth y Pasg, bwytasant o gynnyrch y wlad, a pharatoi bara croyw a chrasyd yn ystod y diwrnod hwnnw.

12. Peidiodd y manna drannoeth wedi iddynt fwyta o gynnyrch y wlad, ac ni chafodd yr Israeliaid fanna wedyn, eithr bwyta cynnyrch gwlad Canaan y flwyddyn honno.

Y Dyn â Chleddyf yn ei Law

13. Tra oedd Josua yn ymyl Jericho, cododd ei lygaid a gweld dyn yn sefyll o'i flaen â'i gleddyf noeth yn ei law. Aeth Josua ato a gofyn iddo, “Ai gyda ni, ynteu gyda'n gwrthwynebwyr yr wyt ti?”

14. Dywedodd yntau, “Nage; ond deuthum yn awr fel pennaeth llu'r ARGLWYDD.” Syrthiodd Josua i'r llawr o'i flaen a moesymgrymu, a gofyn iddo, “Beth sydd gan f'arglwydd i'w ddweud wrth ei was?”

15. Atebodd pennaeth llu'r ARGLWYDD, “Tyn dy sandalau oddi am dy draed, oherwydd y mae'r lle yr wyt yn sefyll arno yn gysegredig.” Gwnaeth Josua felly.