10. Bu'r offeiriaid oedd yn cludo'r arch yn sefyll yng nghanol yr Iorddonen nes cwblhau popeth y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Josua ei ddweud wrth y bobl, y cyfan yr oedd Moses wedi ei orchymyn i Josua. Yr oedd y bobl yn brysio i groesi,
11. ac wedi iddynt oll orffen, fe groesodd arch yr ARGLWYDD a'r offeiriaid yng ngŵydd y bobl.
12. Hefyd fe groesodd gwŷr Reuben a Gad a hanner llwyth Manasse yn arfog o flaen yr Israeliaid, fel yr oedd Moses wedi dweud wrthynt.
13. Croesodd tua deugain mil o filwyr profiadol gerbron yr ARGLWYDD i'r frwydr yn rhosydd Jericho.
14. Dyrchafodd yr ARGLWYDD Josua y diwrnod hwnnw yng ngolwg Israel gyfan, a daethant i'w barchu ef, fel yr oeddent wedi parchu Moses holl ddyddiau ei einioes.
15. Wedi i'r ARGLWYDD ddweud wrth Josua
16. am orchymyn i'r offeiriaid oedd yn cludo arch y dystiolaeth esgyn o'r Iorddonen,
17. gorchmynnodd Josua iddynt, “Dewch i fyny o'r Iorddonen.”
18. Ac fel yr oedd yr offeiriaid oedd yn cludo arch cyfamod yr ARGLWYDD yn esgyn o ganol yr Iorddonen, a gwadnau eu traed yn cyffwrdd tir sych, dychwelodd dyfroedd yr Iorddonen i'w lle, a llifo'n llawn at ei glannau megis cynt.
19. Ar y degfed dydd o'r mis cyntaf y daeth y bobl i fyny o'r Iorddonen a gwersyllu yn Gilgal, ar gwr dwyreiniol Jericho.
20. Gosododd Josua y deuddeg maen a gymerwyd o wely'r Iorddonen yn Gilgal,
21. a dweud wrth yr Israeliaid, “Pan fydd eich plant yn gofyn i'w rhieni yn y dyfodol, ‘Beth yw ystyr y meini hyn?’