Hen Destament

Testament Newydd

Josua 3:7-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, “Heddiw yr wyf am ddechrau dy ddyrchafu yng ngolwg Israel gyfan, er mwyn iddynt sylweddoli fy mod i gyda thi fel y bûm gyda Moses.

8. Felly gorchymyn di i'r offeiriaid sy'n cludo arch y cyfamod, ‘Pan ddewch at lan dyfroedd yr Iorddonen, safwch ynddi.’ ”

9. Dywedodd Josua wrth yr Israeliaid, “Nesewch a gwrandewch eiriau'r ARGLWYDD eich Duw.

10. Dyma sut y byddwch yn gwybod bod y Duw byw yn eich mysg, a'i fod yn sicr o yrru allan o'ch blaen y Canaaneaid, Hethiaid, Hefiaid, Peresiaid, Girgasiaid, Amoriaid a Jebusiaid:

11. bydd arch cyfamod Arglwydd yr holl ddaear yn croesi o'ch blaen drwy'r Iorddonen.

12. Felly dewiswch yn awr ddeuddeg dyn o blith llwythau Israel, un o bob llwyth.

13. Pan fydd gwadnau traed yr offeiriaid sy'n cludo arch yr ARGLWYDD, Arglwydd yr holl ddaear, yn cyffwrdd â'r Iorddonen, fe wahenir ei dyfroedd, a bydd y dŵr sy'n llifo i lawr oddi uchod yn cronni'n un pentwr.”

14. Pan gychwynnodd y bobl o'u pebyll i groesi'r Iorddonen, yr oedd yr offeiriaid oedd yn cludo arch y cyfamod ar flaen y bobl.

15. Yn awr, bydd yr Iorddonen yn gorlifo ei glannau holl ddyddiau'r cynhaeaf; ond pan ddaeth cludwyr yr arch at yr Iorddonen, a thraed yr offeiriaid oedd yn cludo'r arch yn cyffwrdd ag ymyl y dŵr,

16. cronnodd y dyfroedd oedd yn llifo i lawr oddi uchod, a chodi'n un pentwr ymhell iawn i ffwrdd yn Adam, y dref sydd gerllaw Sarethan. Darfu'n llwyr am y dyfroedd oedd yn llifo i lawr tua Môr yr Araba, y Môr Marw, a chroesodd yr holl bobl gyferbyn â Jericho.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 3