Hen Destament

Testament Newydd

Josua 23:10-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Y mae un ohonoch chwi'n peri i fil ohonynt hwy ffoi, oherwydd bod yr ARGLWYDD eich Duw yn ymladd drosoch, fel yr addawodd wrthych.

11. Byddwch yn ofalus, bob un ohonoch, eich bod yn caru'r ARGLWYDD eich Duw.

12. Oherwydd os gwrthgiliwch, a glynu wrth weddill y cenhedloedd hyn a adawyd yn eich mysg, a phriodi a chymysgu â hwy,

13. gallwch fod yn gwbl sicr na fydd yr ARGLWYDD eich Duw yn parhau i yrru'r cenhedloedd hyn allan o'ch blaen. Yn hytrach byddant yn fagl ac yn dramgwydd ichwi, yn chwip ar eich cefnau ac yn ddrain yn eich llygaid, nes y byddwch wedi'ch difa o'r wlad dda hon a roddodd yr ARGLWYDD eich Duw i chwi.

14. “Yn awr yr wyf fi ar fynd i ffordd yr holl ddaear. Y mae pob un ohonoch yn gwybod yn ei galon a'i enaid na phallodd dim un o'r holl bethau daionus a addawodd yr ARGLWYDD eich Duw ar eich cyfer; cawsoch y cwbl, heb ball.

15. Fel y daeth ichwi bopeth da a addawodd yr ARGLWYDD eich Duw, felly hefyd bydd yr ARGLWYDD yn dwyn arnoch bopeth drwg, nes eich difa o'r wlad dda hon a roddodd yr ARGLWYDD eich Duw ichwi.

16. Os torrwch gyfamod yr ARGLWYDD eich Duw, y cyfamod a orchmynnodd ef, a mynd a gwasanaethu duwiau estron a'u haddoli, yna bydd digofaint yr ARGLWYDD yn cynnau yn eich erbyn, ac yn fuan byddwch wedi'ch difa o'r wlad dda a roddodd ef ichwi.”

Darllenwch bennod gyflawn Josua 23