Hen Destament

Testament Newydd

Josua 23:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Wedi cyfnod maith, a'r ARGLWYDD wedi rhoi llonyddwch i Israel oddi wrth eu holl elynion o'u hamgylch, yr oedd Josua yn hen ac yn oedrannus.

2. Galwodd ato Israel gyfan, eu henuriaid, penaethiaid, barnwyr a swyddogion, a dweud wrthynt, “Yr wyf yn hen ac yn oedrannus.

3. Gwelsoch y cwbl a wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw i'r holl genhedloedd hyn er eich mwyn, oherwydd yr ARGLWYDD eich Duw oedd yn ymladd drosoch.

4. Gwelwch fy mod wedi rhannu rhyngoch, yn etifeddiaeth i'ch llwythau, dir y cenhedloedd hyn a ddistrywiais a'r rhai a adawyd rhwng yr Iorddonen a'r Môr Mawr yn y gorllewin.

5. Yr ARGLWYDD eich Duw a fu'n eu hymlid ar eich rhan ac yn eu gyrru allan o'ch blaen, er mwyn i chwi gael meddiannu eu gwlad, fel yr addawodd yr ARGLWYDD eich Duw wrthych.

6. Felly byddwch yn gadarn dros gadw a chyflawni'r cwbl sydd wedi ei ysgrifennu yn llyfr cyfraith Moses, heb wyro oddi wrtho i'r dde na'r aswy.

7. Peidiwch â chymysgu â'r cenhedloedd hyn a adawyd yn eich mysg; peidiwch ag yngan enw eu duwiau na thyngu wrthynt, na'u gwasanaethu na'u haddoli.

8. Ond glynwch wrth yr ARGLWYDD eich Duw fel, yn wir, yr ydych wedi ei wneud hyd y dydd hwn.

9. Oherwydd gyrrodd yr ARGLWYDD allan o'ch blaen genhedloedd mawr a nerthol; nid oes un ohonynt wedi'ch gwrthsefyll hyd y dydd hwn.

10. Y mae un ohonoch chwi'n peri i fil ohonynt hwy ffoi, oherwydd bod yr ARGLWYDD eich Duw yn ymladd drosoch, fel yr addawodd wrthych.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 23