Hen Destament

Testament Newydd

Josua 22:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yna galwodd Josua y Reubeniaid, y Gadiaid a hanner llwyth Manasse,

2. a dweud wrthynt, “Yr ydych wedi cadw'r cwbl a orchmynnodd Moses gwas yr ARGLWYDD i chwi, a buoch yn ufudd i bob gorchymyn a roddais innau ichwi.

3. Ers cyfnod maith hyd y dydd hwn nid ydych wedi cefnu ar eich perthnasau, a buoch yn ofalus i gadw gorchymyn yr ARGLWYDD eich Duw.

4. Bellach y mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi rhoi diogelwch i'ch perthnasau, fel yr addawodd iddynt; felly, yn awr, trowch yn ôl ac ewch adref i'r tir a roddodd Moses gwas yr ARGLWYDD i chwi i'w feddiannu y tu hwnt i'r Iorddonen.

5. Yn unig byddwch yn ofalus iawn i gadw'r gorchymyn a'r gyfraith a roddodd Moses gwas yr ARGLWYDD ichwi, i garu'r ARGLWYDD eich Duw, a cherdded yn ei holl lwybrau, i gadw ei orchmynion, a glynu wrtho a'i wasanaethu â'ch holl galon ac â'ch holl enaid.”

6. Yna bendithiodd Josua hwy a'u gollwng ymaith, ac aethant adref.

7. I hanner llwyth Manasse yr oedd Moses wedi rhoi tir yn Basan; i'r hanner arall rhoddodd Josua dir gyda'u perthnasau i'r gorllewin o'r Iorddonen. Wrth eu hanfon adref a'u bendithio,

8. dywedodd Josua wrthynt, “Dychwelwch adref â chyfoeth mawr a llawer iawn o anifeiliaid, hefyd arian, aur, pres a haearn, a llawer iawn o ddillad; rhannwch â'ch perthnasau ysbail eich gelynion.”

Darllenwch bennod gyflawn Josua 22