Hen Destament

Testament Newydd

Josua 19:38-51 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

38. Iron, Migdal-el, Horem, Beth-anath a Beth-semes: pedair ar bymtheg o drefi a'u pentrefi.

39. Dyma etifeddiaeth llwyth Nafftali yn ôl eu tylwythau, yn drefi a'u pentrefi.

40. Disgynnodd y seithfed coelbren i lwyth Dan yn ôl eu tylwythau.

41. Yn eu tiriogaeth hwy yr oedd Sora, Estaol, Ir-semes,

42. Saalabbin, Ajalon, Ithla,

43. Elon, Timna, Ecron,

44. Eltece, Gibbethon, Baalath,

45. Jehud, Bene-berac, Gath-rimmon,

46. Meiarcon, a Raccon, a hefyd y tir gyferbyn â Jopa.

47. Pan gollodd y Daniaid eu tiriogaeth, aethant i fyny ac ymladd yn erbyn Lesem a'i chipio; trawsant hi â min cleddyf, a'i meddiannu ac ymsefydlu yno, gan alw Lesem yn Dan ar ôl eu tad.

48. Dyma etifeddiaeth llwyth Dan yn ôl eu tylwythau, y trefi hyn a'u pentrefi.

49. Wedi iddynt orffen rhannu'r wlad yn ôl ei therfynau, rhoddodd yr Israeliaid etifeddiaeth yn eu mysg i Josua fab Nun.

50. Yn unol â gorchymyn yr ARGLWYDD, rhoesant iddo'r ddinas y gofynnodd amdani, sef Timnath-sera ym mynydd-dir Effraim; ac wedi iddo'i hailadeiladu, bu fyw yno.

51. Dyma'r etifeddiaethau a rannodd yr offeiriad Eleasar, a Josua fab Nun a'r pennau-teuluoedd, trwy goelbren, i lwythau Israel yn Seilo gerbron yr ARGLWYDD, yn nrws pabell y cyfarfod. A gorffenasant rannu'r wlad.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 19