24. Disgynnodd y pumed coelbren i lwyth Aser yn ôl eu tylwythau.
25. Yn eu tiriogaeth hwy yr oedd Helcath, Hali, Beten, Achsaff,
26. Alammelech, Amad a Misal; yn y gorllewin yr oedd eu terfyn yn cyffwrdd â Charmel a Sihor Libnath.
27. Yr oedd yn troi'n ôl tua'r dwyrain at Beth-dagon, ac yna'n cyffwrdd â Sabulon a dyffryn Jifftahel, ac yn mynd tua'r gogledd at Beth-emec a Neiel, heibio i Cabwl,
28. Ebron, Rehob, Hammon a Cana hyd at Sidon Fawr.
29. Yr oedd y terfyn yn troi yn Rama ac yn cyrraedd dinas gaerog Tyrus, ac yna'n troi tua Hosa nes cyrraedd Mahalab, Achsib,
30. Acco, Affec a Rehob: dwy ar hugain o drefi a'u pentrefi.
31. Dyma etifeddiaeth llwyth Aser yn ôl eu tylwythau, y trefi hyn a'u pentrefi.
32. I lwyth Nafftali y disgynnodd y chweched coelbren, i lwyth Nafftali yn ôl eu tylwythau.
33. Âi eu terfyn hwy o Heleff, o'r dderwen yn Saanannim heibio i Adami-neceb a Jabneel i Laccum, nes cyrraedd yr Iorddonen.
34. Yr oedd y terfyn yn troi tua'r gorllewin yn Asnoth-tabor ac yn mynd oddi yno i Huccoc, gan gyffwrdd â Sabulon i'r de, ac Aser i'r gorllewin, a Jwda ger yr Iorddonen i'r dwyrain.
35. Eu dinasoedd caerog oedd Sidim, Ser, Hammath, Raccath, Cinnereth,