1. I Simeon y disgynnodd yr ail goelbren, i lwyth Simeon yn ôl eu tylwythau; yr oedd eu hetifeddiaeth hwy yng nghanol etifeddiaeth Jwda.
2. Cawsant yn etifeddiaeth: Beerseba, Seba, Molada,
3. Hasar-sual, Bala, Esem,
4. Eltolad, Bethul, Horma,
5. Siclag, Beth-marcaboth, Hasar-usa,
6. Beth-lebaoth a Saruhen: tair ar ddeg o drefi a'u pentrefi.
7. Ain, Rimmon, Ether ac Asan: pedair tref a'u pentrefi;
8. hefyd yr holl bentrefi o amgylch y trefi hyn, hyd at Baalath-beer, Ramath-negef. Dyma etifeddiaeth llwyth Simeon yn ôl eu tylwythau.
9. Daeth peth o randir Jwda yn etifeddiaeth i Simeon, am fod rhan llwyth Jwda yn ormod iddynt; felly etifeddodd Simeon gyfran yng nghanol etifeddiaeth Jwda.
10. Disgynnodd y trydydd coelbren i lwyth Sabulon yn ôl eu tylwythau; yr oedd terfyn eu hetifeddiaeth hwy'n ymestyn hyd Sarid,
11. ac yna i fyny tua'r gorllewin at Marala, gan gyffwrdd â Dabbeseth ac â'r nant gyferbyn â Jocneam.
12. Yr oedd y terfyn yn troi'n ôl o Sarid tua'r dwyrain a chodiad haul, ac yna'n mynd i fyny at Cisloth-tabor, ac ymlaen at Daberath ac i fyny i Jaffia.
13. Oddi yno âi yn ei flaen tua'r dwyrain i Gath-heffer ac Itta-casin, nes cyrraedd Rimon a throi tua Nea.
14. Yr oedd y terfyn yn troi i'r gogledd o Hannathon, nes cyrraedd dyffryn Jifftahel,
15. gan gynnwys Cattath, Nahalal, Simron, Idala a Bethlehem: deuddeg o drefi a'u pentrefi.
16. Dyma etifeddiaeth llwyth Sabulon yn ôl eu tylwythau, y trefi hyn a'u pentrefi.
17. I Issachar y disgynnodd y pedwerydd coelbren, i lwyth Issachar yn ôl eu tylwythau.