Hen Destament

Testament Newydd

Josua 18:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Daeth holl gynulliad Israel at ei gilydd i Seilo, a gosod yno babell y cyfarfod. Yr oedd y wlad wedi ei darostwng o'u blaen,

2. ond yr oedd ar ôl ymysg yr Israeliaid saith llwyth heb ddosrannu eu hetifeddiaeth.

3. Dywedodd Josua wrth yr Israeliaid, “Am ba hyd yr ydych am esgeuluso mynd i feddiannu'r tir a roddodd ARGLWYDD Dduw eich hynafiaid ichwi?

4. Dewiswch dri dyn o bob llwyth, imi eu hanfon allan i gerdded y wlad a gwneud rhestrau ar gyfer ei hetifeddu, ac yna dod yn ôl ataf.

5. Y maent i'w rhannu'n saith rhan; y mae Jwda i gadw ei derfyn yn y de, a thÅ· Joseff ei derfyn yn y gogledd.

6. Ac wedi ichwi ddosbarthu'r tir yn saith rhan, dewch â'r rhestrau ataf fi i'r fan hon, er mwyn imi fwrw coelbren drosoch yma gerbron yr ARGLWYDD ein Duw.

7. Ni fydd rhan i'r Lefiaid yn eich mysg, oherwydd offeiriadaeth yr ARGLWYDD yw eu hetifeddiaeth hwy; a hefyd y mae Gad a Reuben a hanner llwyth Manasse wedi cael eu hetifeddiaeth i'r dwyrain o'r Iorddonen o law Moses gwas yr ARGLWYDD.”

8. Pan oedd y dynion yn cychwyn ar eu taith i restru'r tir, gorchmynnodd Josua iddynt, “Ewch i fyny ac i lawr y wlad, a rhestrwch hi; yna dewch yn ôl ataf fi, ac fe fwriaf goelbren drosoch gerbron yr ARGLWYDD yma yn Seilo.”

9. Aeth y dynion, a cherdded y wlad a'i rhestru mewn llyfr, yn saith rhan, fesul trefi; yna daethant yn ôl at Josua yng ngwersyll Seilo.

10. Bwriodd Josua goelbren drostynt gerbron yr ARGLWYDD yn Seilo, a rhannu'r tir i'r Israeliaid, cyfran i bob un.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 18