Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

Josua 14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Rhannu'r Tir i'r Gorllewin o'r Iorddonen

1. Dyma'r tiroedd a gafodd yr Israeliaid yn etifeddiaeth yng ngwlad Canaan oddi ar law yr offeiriad Eleasar, a Josua fab Nun, a'r pennau-teuluoedd ymysg llwythau'r Israeliaid.

2. Trwy fwrw coelbren y rhoddwyd eu hetifeddiaeth i'r naw llwyth a hanner, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD drwy Moses;

3. oherwydd yr oedd Moses wedi rhoi eu hetifeddiaeth i'r ddau lwyth a hanner y tu hwnt i'r Iorddonen. Ond ni roddodd etifeddiaeth yn eu plith i'r Lefiaid.

4. Yr oedd disgynyddion Joseff yn ddau lwyth, Manasse ac Effraim. Ni roddwyd cyfran yn y tir i'r Lefiaid ac eithrio trefi i fyw ynddynt a phorfeydd ar gyfer eu gyrroedd a'u preiddiau.

5. Rhannodd yr Israeliaid y tir yn union fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.

Rhoi Hebron yn Etifeddiaeth i Caleb

6. Daeth llwyth Jwda gerbron Josua yn Gilgal, a dywedodd Caleb fab Jeffunne'r Cenesiad wrtho, “Gwyddost yr hyn a ddywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses gŵr Duw amdanom ni'n dau yn Cades-barnea.

7. Deugain oed oeddwn i pan anfonodd Moses gwas yr ARGLWYDD fi o Cades-barnea i ysbïo'r wlad. Deuthum ag adroddiad diragfarn yn ôl iddo.

8. Er bod fy nghymdeithion wedi digalonni'r bobl, fe lwyr ddilynais i yr ARGLWYDD fy Nuw;

9. ac fe addawodd Moses imi y diwrnod hwnnw: ‘Yn sicr, etifeddiaeth i ti ac i'th blant am byth fydd y tir y bydd dy droed yn sangu arno, am iti lwyr ddilyn yr ARGLWYDD, fy Nuw.’

10. Yn awr, dyma'r ARGLWYDD wedi f'arbed, fel yr addawodd, dros y pum mlynedd a deugain hyn er pan lefarodd yr ARGLWYDD yr addewid hon wrth Moses, pan oedd Israel yn rhodio'r anialwch; a dyma fi heddiw yn bump a phedwar ugain oed.

11. Yr wyf mor gryf heddiw ag ar y diwrnod yr anfonodd Moses fi; y mae fy nerth cystal yn awr â'r adeg honno i ryfela ac i arwain byddin.

12. Felly rho imi'n awr y mynydd-dir hwn a addawodd yr ARGLWYDD y pryd hwnnw; oherwydd fe glywaist ti dy hun yr adeg honno fod Anacim yno, a bod eu dinasoedd yn rhai mawr a chaerog; ond odid na fydd yr ARGLWYDD gyda mi, ac fe'u gyrraf hwy allan, fel yr addawodd yr ARGLWYDD.”

13. Bendithiodd Josua ef a rhoddodd Hebron yn etifeddiaeth i Caleb fab Jeffunne.

14. Dyna pam y mae Hebron yn feddiant i Caleb fab Jeffunne'r Cenesiad hyd heddiw, am, iddo lwyr ddilyn yr ARGLWYDD, Duw Israel.

15. Enw Hebron gynt oedd Ciriath-arba, ar ôl Arba, prif ddyn yr Anacim. A chafodd y wlad lonydd rhag rhyfel.