Hen Destament

Testament Newydd

Josua 13:23-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

23. Yr Iorddonen a'i goror oedd terfyn llwyth Reuben; a dyna'u hetifeddiaeth yn ôl eu teuluoedd, gyda'u trefi a'u pentrefi.

24. Rhoddodd Moses etifeddiaeth i lwyth Gad yn ôl eu teuluoedd.

25. Eu tiriogaeth hwy oedd Jaser a holl drefi Gilead a hanner tir yr Ammoniaid hyd at Aroer sydd o flaen Rabba;

26. yna o Hesbon at Ramath-mispa a Betonim, ac o Mahanaim at derfyn Lo-debar;

27. yna, yn y dyffryn, Beth-haram, Beth-nimra, Succoth a Saffon, gweddill teyrnas Sihon brenin Hesbon; yr Iorddonen oedd y terfyn at gwr isaf Môr Cinnereth i'r dwyrain o'r Iorddonen.

28. Dyma etifeddiaeth Gad yn ôl eu teuluoedd, gyda'u trefi a'u pentrefi.

Darllenwch bennod gyflawn Josua 13