Josua 10:1 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)
Clywodd Adonisedec brenin Jerwsalem i Josua ennill Ai a'i difrodi a gwneud iddi hi a'i brenin yn union fel y gwnaeth i Jericho a'i brenin, a bod trigolion Gibeon wedi gwneud heddwch ag Israel, ac yn byw yn eu mysg.