Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4

Hen Destament

Testament Newydd

Jona 2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Gweddi Jona

1. Yna gweddïodd Jona ar yr ARGLWYDD ei Dduw o fol y pysgodyn a dweud,

2. “Gelwais ar yr ARGLWYDD yn fy nghyfyngder, ac atebodd fi;o ddyfnder Sheol y gwaeddais, a chlywaist fy llais.

3. Teflaist fi i'r dyfnder, i eigion y môr, a'r llanw yn f'amgylchu;yr oedd dy holl donnau a'th lifeiriant yn mynd dros fy mhen.

4. Yna dywedais, ‘Fe'm gyrrwyd allan o'th olwg di;sut y caf edrych eto ar dy deml sanctaidd?’

5. Caeodd y dyfroedd amdanaf, a'r dyfnder o'm cwmpas;clymodd y gwymon am fy mhen wrth wreiddiau'r mynyddoedd;

6. euthum i lawr i'r wlad y caeodd ei bolltau arnaf am byth.Eto, dygaist fy mywyd i fyny o'r pwll, O ARGLWYDD fy Nuw.

7. Pan deimlais fy hun yn llewygu, cofiais am yr ARGLWYDD,a daeth fy ngweddi atat i'th deml sanctaidd.

8. Y mae'r rhai sy'n addoli eilunod gwag yn gwadu eu teyrngarwch.

9. Ond aberthaf i ti â chân o ddiolch.Talaf yr hyn a addunedais;i'r ARGLWYDD y perthyn gwaredu.”

10. A llefarodd yr ARGLWYDD wrth y pysgodyn, a chwydodd yntau Jona ar y lan.