Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4

Hen Destament

Testament Newydd

Jona 1 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Anufudd-dod Jona

1. Daeth gair yr ARGLWYDD at Jona fab Amittai, a dweud,

2. “Cod, dos i Ninefe, y ddinas fawr, a llefara yn ei herbyn; oherwydd daeth ei drygioni i'm sylw.”

3. Ond cododd Jona i ffoi oddi wrth yr ARGLWYDD i Tarsis. Aeth i lawr i Jopa a chael llong yn mynd i Tarsis, ac wedi talu ei dreuliau aeth arni i fynd gyda hwy i Tarsis oddi wrth yr ARGLWYDD.

4. Ond cododd yr ARGLWYDD wynt nerthol ar y môr, a bu storm mor arw ar y môr nes bod y llong mewn perygl o gael ei dryllio.

5. Yr oedd y morwyr wedi dychryn, a phob un yn gweiddi ar ei dduw, a thaflasant y gêr oedd ar y llong i'r môr i'w hysgafnu. Ond yr oedd Jona wedi mynd i grombil y llong i orwedd, ac wedi cysgu.

6. A daeth capten y llong ato a gofyn, “Beth yw dy feddwl, yn cysgu? Cod, a galw ar dy dduw; efallai y meddylia'r duw amdanom, rhag ein difetha.”

7. Yna dywedodd y morwyr wrth ei gilydd, “O achos pwy y daeth y drwg hwn arnom? Gadewch inni fwrw coelbren, inni gael gwybod.” Felly bwriasant goelbren, a syrthiodd y coelbren ar Jona.

8. Yna dywedasant wrtho, “Dywed i ni, beth yw dy neges? O ble y daethost? Prun yw dy wlad? O ba genedl yr wyt?”

9. Atebodd yntau hwy, “Hebrëwr wyf fi; ac yr wyf yn ofni'r ARGLWYDD, Duw'r nefoedd, a wnaeth y môr a'r sychdir.”

10. A daeth ofn mawr ar y dynion, a dywedasant wrtho, “Beth yw hyn a wnaethost?” Oherwydd gwyddai'r dynion mai ffoi oddi wrth yr ARGLWYDD yr oedd, gan iddo ddweud hynny wrthynt.

11. Yna dywedasant, “Beth a wnawn â thi, er mwyn i'r môr ostegu inni, oherwydd y mae'n gwaethygu o hyd.”

12. Atebodd yntau, “Cymerwch fi a'm taflu i'r môr, ac yna fe dawela'r môr ichwi; oherwydd gwn mai o'm hachos i y daeth y storm arw hon arnoch.”

13. Rhwyfodd y dynion yn galed i gyrraedd tir, ond ni allent, gan fod y môr yn gwaethygu o hyd yn eu herbyn.

14. Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD a dweud, “O ARGLWYDD, paid â gadael inni gael ein difetha am fywyd y dyn hwn, na rhoi gwaed dieuog yn ein herbyn; ti yw'r ARGLWYDD, ac yr wyt yn gwneud fel y gweli'n dda.”

15. Yna cymerasant Jona a'i daflu i'r môr, a llonyddodd y môr o'i gynnwrf.

16. Ac ofnodd y gwŷr yr ARGLWYDD yn fawr iawn, gan offrymu aberth i'r ARGLWYDD a gwneud addunedau.

17. A threfnodd yr ARGLWYDD i bysgodyn mawr lyncu Jona; a bu Jona ym mol y pysgodyn am dri diwrnod a thair noson.