Hen Destament

Testament Newydd

Joel 3:19-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

19. “Bydd yr Aifft yn anghyfanneddac Edom yn anialwch diffaith,oherwydd y gorthrwm ar bobl Jwdawrth dywallt gwaed y dieuog yn eu gwlad.

20. Ond erys Jwda dros bytha Jerwsalem dros genedlaethau.

21. Dialaf eu gwaed, ac ni ollyngaf yr euog,a phreswylia'r ARGLWYDD yn Seion.”

Darllenwch bennod gyflawn Joel 3