13. Gwisgwch sachliain a galaru, offeiriaid,codwch gwynfan, weinidogion yr allor.Ewch i dreulio'r nos mewn sachliain,weinidogion fy Nuw,oherwydd i'r bwydoffrwm a'r diodoffrwmgael eu hatal o dŷ eich Duw.
14. Cyhoeddwch ympryd,galwch gynulliad.Chwi henuriaid, cynullwchholl drigolion y wladi dŷ'r ARGLWYDD eich Duw,a llefwch ar yr ARGLWYDD.
15. Och y fath ddiwrnod!Oherwydd y mae dydd yr ARGLWYDD yn agos;daw fel dinistr oddi wrth yr Hollalluog.
16. Oni ddiflannodd y bwyd o flaen ein llygaid,a dedwyddwch a llawenydd o dŷ ein Duw?
17. Y mae'r had yn crebachuo dan y tywyrch,yr ysgubor wedi ei chwalua'r granar yn adfeilion,am i'r grawn fethu.
18. Y fath alar gan yr anifeiliaid!Y mae'r gyrroedd gwartheg mewn dryswcham eu bod heb borfa;ac y mae'r diadelloedd defaid yn darfod.
19. Arnat ti, ARGLWYDD, yr wyf yn llefain,oherwydd difaodd tân borfeydd yr anialwch,a llosgodd fflam holl goed y maes.
20. Y mae'r anifeiliaid gwylltion yn llefain arnat,oherwydd sychodd y nentydda difaodd tân borfeydd yr anialwch.