Hen Destament

Testament Newydd

Joel 1:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Gair yr ARGLWYDD, a ddaeth at Joel fab Pethuel.

2. Clywch hyn, henuriaid,gwrandewch, holl drigolion y wlad.A ddigwyddodd peth fel hyn yn eich dyddiau chwi,neu yn nyddiau eich hynafiaid?

3. Dywedwch am hyn wrth eich plant,a dyweded eich plant wrth eu plant,a'u plant hwythau wrth y genhedlaeth nesaf.

4. Yr hyn a adawodd y cyw locust,fe'i bwytaodd y locust sydd ar ei dyfiant;yr hyn a adawodd y locust ar ei dyfiant,fe'i bwytaodd y locust mawr;a'r hyn a adawodd y locust mawr,fe'i bwytaodd y locust difaol.

5. Deffrowch feddwon, ac wylwch;galarwch, bob yfwr gwin,am y gwin newydd a dorrwyd ymaith o'ch genau.

6. Oherwydd daeth cenedl i oresgyn fy nhir,a honno'n un gref a dirifedi;dannedd llew yw ei dannedd,ac y mae ganddi gilddannedd llewes.

7. Maluriodd fy ngwinwydd,a darnio fy nghoed ffigys;rhwygodd ymaith y rhisgl yn llwyr,ac aeth y cangau'n wynion.

8. Galara di fel gwyryf yn gwisgo sachliainam ddyweddi ei hieuenctid.

9. Pallodd y bwydoffrwm a'r diodoffrwm yn nhÅ·'r ARGLWYDD;y mae'r offeiriaid, gweinidogion yr ARGLWYDD, yn galaru.

10. Anrheithiwyd y tir,y mae'r ddaear yn galaru,oherwydd i'r grawn gael ei ddifa,ac i'r gwin ballu,ac i'r olew sychu.

Darllenwch bennod gyflawn Joel 1