Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42

Hen Destament

Testament Newydd

Job 9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Atebodd Job:

2. “Gwn yn sicr fod hyn yn wir,na all neb ei gyfiawnhau ei hun gyda Duw.

3. Os myn ymryson ag ef,nid etyb ef unwaith mewn mil.

4. Y mae'n ddoeth a chryf;pwy a ystyfnigodd yn ei erbyn yn llwyddiannus?

5. Y mae'n symud mynyddoedd heb iddynt wybod,ac yn eu dymchwel yn ei lid.

6. Y mae'n ysgwyd y ddaear o'i lle,a chryna'i cholofnau.

7. Y mae'n gorchymyn i'r haul beidio â chodi,ac yn gosod sêl ar y sêr.

8. Taenodd y nefoedd ei hunan,a sathrodd grib y môr.

9. Creodd yr Arth ac Orion,Pleiades a chylch Sêr y De.

10. Gwna weithredoedd mawr ac anchwiliadwy,a rhyfeddodau dirifedi.

11. “Pan â heibio imi, nis gwelaf,a diflanna heb i mi ddirnad.

12. Os cipia, pwy a'i rhwystra?Pwy a ddywed wrtho, ‘Beth a wnei?’?

13. Ni thry Duw ei lid ymaith;ymgreinia cynorthwywyr Rahab wrth ei draed.

14. Pa faint llai yr atebwn i ef,a dadlau gair am air ag ef?

15. Hyd yn oed pe byddwn gyfiawn, ni'm hatebid,dim ond ymbil am drugaredd gan fy marnwr.

16. Pe gwysiwn ef ac yntau'n ateb,ni chredwn y gwrandawai arnaf.

17. Canys heb reswm y mae'n fy nryllio,ac yn amlhau f'archollion yn ddiachos.

18. Nid yw'n rhoi cyfle imi gymryd fy anadl,ond y mae'n fy llenwi â chwerwder.

19. “Os cryfder a geisir, wele ef yn gryf;os barn, pwy a'i geilw i drefn?

20. Pe bawn gyfiawn, condemniai fi â'm geiriau fy hun;pe bawn ddi-fai, dangosai imi gyfeiliorni.

21. Di-fai wyf, ond nid wyf yn malio amdanaf fy hun;yr wyf yn ffieiddio fy mywyd.

22. Yr un dynged sydd i bawb; am hynny dywedafei fod ef yn difetha'r di-fai a'r drygionus.

23. Os dinistr a ladd yn ddisymwth,fe chwardd am drallod y diniwed.

24. Os rhoddir gwlad yng ngafael y drygionus,fe daena orchudd tros wyneb ei barnwyr.Os nad ef, pwy yw?

25. “Y mae fy nyddiau'n gyflymach na rhedwr;y maent yn diflannu heb weld daioni.

26. Y maent yn gwibio fel llongau o frwyn,fel eryr yn disgyn ar gelain.

27. Os dywedaf, ‘Anghofiaf fy nghwyn,newidiaf fy mhryd a byddaf lawen’,

28. eto arswydaf rhag fy holl ofidiau;gwn na'm hystyri'n ddieuog.

29. A bwrw fy mod yn euog,pam y llafuriaf yn ofer?

30. Os ymolchaf â sebon,a golchi fy nwylo â soda,

31. yna tefli fi i'r ffos,a gwna fy nillad fi'n ffiaidd.

32. “Nid dyn yw ef fel fi, fel y gallaf ei ateb,ac y gallwn ddod ynghyd i ymgyfreithio.

33. O na fyddai un i dorri'r ddadl rhyngom,ac i osod ei law arnom ein dau,

34. fel y symudai ei wialen oddi arnaf,ac fel na'm dychrynid gan ei arswyd!

35. Yna llefarwn yn eofn.Ond nid felly y caf fy hun.”