10. Oni fyddant hwy'n dy hyfforddi, a mynegi wrthyt,a rhoi atebion deallus?
11. A dyf brwyn lle nad oes cors?A ffynna hesg heb ddŵr?
12. Er eu bod yn ir a heb eu torri,eto gwywant yn gynt na'r holl blanhigion.
13. Felly y mae tynged yr holl rai sy'n anghofio Duw,ac y derfydd gobaith yr annuwiol.
14. Edau frau yw ei hyder,a'i ymffrost fel gwe'r pryf copyn.
15. Pwysa ar ei dŷ, ond ni saif;cydia ynddo, ond ni ddeil.
16. Bydd yn ir yn llygad yr haul,yn estyn ei frigau dros yr ardd;
17. ymbletha'i wraidd dros y pentwr cerrig,a daw i'r golwg rhwng y meini.
18. Ond os diwreiddir ef o'i le,fe'i gwedir: ‘Ni welais di’.
19. Gwywo felly yw ei natur;ac yna tyf un arall o'r pridd.
20. “Wele, ni wrthyd Duw yr uniawn,ac ni chydia yn llaw y drygionus.
21. Lleinw eto dy enau â chwerthin,a'th wefusau â gorfoledd.
22. Gwisgir dy elynion â gwarth,a diflanna pabell y drygionus.”