Hen Destament

Testament Newydd

Job 7:3-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. felly y daeth misoedd ofer i'm rhan innau,a threfnwyd imi nosweithiau gofidus.

4. Pan orweddaf, dywedaf, ‘Pa bryd y caf godi?’Y mae'r nos yn hir, a byddaf yn blino yn troi a throsi hyd doriad gwawr.

5. Gorchuddiwyd fy nghnawd gan bryfed a budreddi;crawniodd fy nghroen, ac yna torri allan.

6. Y mae fy nyddiau'n gyflymach na gwennol gwehydd;darfyddant fel edafedd yn dirwyn i ben.

7. “Cofia mai awel o wynt yw fy hoedl;ni wêl fy llygaid ddaioni eto.

8. Y llygad sy'n edrych arnaf, ni'm gwêl;ar amrantiad ni fyddaf ar gael iti.

9. Fel y cili'r cwmwl a diflannu,felly'r sawl sy'n mynd i Sheol, ni ddychwel oddi yno;

Darllenwch bennod gyflawn Job 7