Hen Destament

Testament Newydd

Job 7:10-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. ni ddaw eto i'w gartref,ac nid edwyn ei le mohono mwy.

11. “Ond myfi, nid ataliaf fy ngeiriau;llefaraf yng nghyfyngder fy ysbryd,cwynaf yn chwerwder fy enaid.

12. Ai'r môr ydwyf, neu'r ddraig,gan dy fod yn gosod gwyliwr arnaf?

13. “Pan ddywedaf, ‘Fy ngwely a rydd gysur imi;fy ngorweddfa a liniara fy nghwyn’,

14. yr wyt yn fy nychryn â breuddwydion,ac yn f'arswydo â gweledigaethau.

15. Gwell fyddai gennyf fy nhagu,a marw yn hytrach na goddef fy mhoen.

16. Rwy'n ddiobaith; ni ddymunaf fyw am amser maith.Gad lonydd imi, canys y mae fy nyddiau fel anadl.

17. Beth yw meidrolyn i ti ei ystyried,ac iti roi cymaint o sylw iddo?

18. Yr wyt yn ymweld ag ef bob bore,ac yn ei brofi bob eiliad.

19. Pa bryd y peidi ag edrych arnaf,ac y rhoi lonydd imi lyncu fy mhoeri?

20. Os pechais, beth a wneuthum i ti, O wyliwr dynolryw?Pam y cymeraist fi'n nod,nes fy mod yn faich i mi fy hun?

21. Pam na faddeui fy nhrosedda symud fy mai?Yn awr rwy'n gorwedd yn y llwch,ac er i ti chwilio amdanaf, ni fyddaf ar gael.”

Darllenwch bennod gyflawn Job 7