1. “Onid llafur caled sydd i ddyn ar y ddaear,a'i ddyddiau fel dyddiau gwas cyflog?
2. Fel caethwas yn dyheu am gysgod,a gwas yn disgwyl am ei dâl,
3. felly y daeth misoedd ofer i'm rhan innau,a threfnwyd imi nosweithiau gofidus.
4. Pan orweddaf, dywedaf, ‘Pa bryd y caf godi?’Y mae'r nos yn hir, a byddaf yn blino yn troi a throsi hyd doriad gwawr.
5. Gorchuddiwyd fy nghnawd gan bryfed a budreddi;crawniodd fy nghroen, ac yna torri allan.
6. Y mae fy nyddiau'n gyflymach na gwennol gwehydd;darfyddant fel edafedd yn dirwyn i ben.
7. “Cofia mai awel o wynt yw fy hoedl;ni wêl fy llygaid ddaioni eto.
8. Y llygad sy'n edrych arnaf, ni'm gwêl;ar amrantiad ni fyddaf ar gael iti.
9. Fel y cili'r cwmwl a diflannu,felly'r sawl sy'n mynd i Sheol, ni ddychwel oddi yno;
10. ni ddaw eto i'w gartref,ac nid edwyn ei le mohono mwy.
11. “Ond myfi, nid ataliaf fy ngeiriau;llefaraf yng nghyfyngder fy ysbryd,cwynaf yn chwerwder fy enaid.