Hen Destament

Testament Newydd

Job 6:13-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Wele, nid oes imi gymorth ynof,a gyrrwyd llwyddiant oddi wrthyf.

14. Daw teyrngarwch ei gyfaill i'r claf,er iddo gefnu ar ofn yr Hollalluog.

15. Twyllodd fy mrodyr fi fel ffrwd ysbeidiol;fel nentydd sy'n gorlifo,

16. yn dywyll gan rew,ac eira yn cuddio ynddynt.

17. Ond pan ddaw poethder fe beidiant,ac yn y gwres diflannant o'u lle.

18. Troella'r carafanau yn eu ffyrdd,crwydrant i'r diffeithle, a chollir hwy.

19. Y mae carafanau Tema yn edrych amdanynt,a marsiandïwyr Sheba yn disgwyl wrthynt.

20. Cywilyddir hwy yn eu hyder;dônt atynt, ac fe'u siomir.

21. Felly yr ydych chwithau i mi;gwelwch drychineb, a dychrynwch.

22. A ddywedais o gwbl, ‘Rhowch imi,ac estynnwch rodd drosof o'ch cyfoeth;

23. achubwch fi o afael y gelyn,a rhyddhewch fi o afael gormeswyr’?

Darllenwch bennod gyflawn Job 6