Hen Destament

Testament Newydd

Job 6:1-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Atebodd Job:

2. “O na ellid pwyso fy nhrallod,a gosod fy aflwydd i gyd mewn clorian!

3. Yna byddai'n drymach na thywod y môr;am hyn y bu fy ngeiriau yn fyrbwyll.

4. Y mae saethau'r Hollalluog ynof;yfodd fy ysbryd eu gwenwyn;dychryn Duw sy'n gwarchae amdanaf.

5. A yw'r asyn gwyllt yn nadu uwchben glaswellt?A yw'r ych yn brefu uwchben ei borthiant?

6. A fwyteir yr hyn sydd ddi-flas heb halen?A oes blas ar sudd y malws?

7. Y mae fy stumog yn eu gwrthod;y maent fel pydredd fy nghnawd.

8. “O na ddôi fy nymuniad i ben,ac na chyflawnai Duw fy ngobaith!

9. O na ryngai fodd i Dduw fy nharo,ac estyn ei law i'm torri i lawr!

10. Byddai o hyd yn gysur imi,a llawenhawn yn yr ing diarbed(nid wyf yn gwadu geiriau'r Sanct).

11. Pa nerth sydd gennyf i obeithio,a beth fydd fy niwedd, fel y byddwn yn amyneddgar?

12. Ai nerth cerrig yw fy nerth?Ai pres yw fy nghnawd?

13. Wele, nid oes imi gymorth ynof,a gyrrwyd llwyddiant oddi wrthyf.

14. Daw teyrngarwch ei gyfaill i'r claf,er iddo gefnu ar ofn yr Hollalluog.

15. Twyllodd fy mrodyr fi fel ffrwd ysbeidiol;fel nentydd sy'n gorlifo,

16. yn dywyll gan rew,ac eira yn cuddio ynddynt.

17. Ond pan ddaw poethder fe beidiant,ac yn y gwres diflannant o'u lle.

Darllenwch bennod gyflawn Job 6